Llythyron

 

 

 

of
Zoom:

 

 
5 Chwefror 2021
 
Annwyl Rhieni,
 
Mae Ysgol Dolau yn cefnogi “Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel” ar 9 Chwefror 2021. Mae’r diwrnod yma’n cael ei ddathlu ar draws y byd mewn dros 170 o wledydd. Mae miloedd o bobl ifanc ledled y DU yn ymuno yn y dathlu ac yn edrych ar sut maen nhw’n gallu defnyddio’r rhyngrwyd yn gyfrifol, yn barchus, yn feirniadol ac yn greadigol.
 
Mae Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn gyfle gwych i ganolbwyntio ar ddiogelwch ar-lein gyda’ch plentyn – boed chi’n rhoi cynnig ar rai o’r gweithgareddau dysgu sydd yn y pecyn sydd wedi’i atodi (gweler isod), yn ei holi beth mae’n hoffi ei wneud ar-lein neu’n defnyddio ei hoff ap neu ei hoff gêm. Efallai bydd gweithgareddau dysgu gartref yn cael ei rhoi gan eich athro dosbarth yr wythnos yma hefyd.
 
Thema Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2021 ydy 'Rhyngrwyd Ddibynadwy: beth sy’n ddibynadwy yn y byd ar-lein'. Edrychwch ar yr adnoddau a syniadau sydd wedi’i atodi neu ewch i saferinternetday.org.uk am fwy o wybodaeth.
 
Cysylltwch a’r ysgol os ydych angen unrhyw gefnogaeth arall gyda defnyddio’r rhyngrwyd yn fwy diogel.
 
Diolch,

Miss Winfield-Young
Arweinydd Digidol Ysgol Dolau
 
 
Y Pecyn Adnoddau: