“Ymdrechwn yn gyson i wella’r ysgol...”
Rydyn ni’n mawr obeithio y byddwch chi’n mwynhau ymweld â’n gwefan ac yn ei weld yn adnodd defnyddiol a diddorol.
Rydyn ni’n ffodus iawn yn Dolau bod gennyn ni dîm o staff arbennig sy’n weithgar ac wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau fod pob plentyn o fewn ein gofal yn derbyn yr addysg flaenaf sy’n eu galluogi i gyrraedd eu potensial.
Rydyn ni’n ymfalchïo yn ein dwyieithrwydd, sy’n dod ag elfen unigryw iawn i’n hysgol ac yn helpu i adeiladu awyrgylch hapus, gofalgar a chyfeillgar. Yn ein hymdrech i ymestyn yr ethos yma ymhellach, rydyn ni wedi sefydlu cysylltiadau cadarn gyda rhieni a chymuned yr ysgol.
Amlygwyd nifer o elfennau o ragoriaeth yn ein hadroddiad arolwg diweddaraf gan gynnwys bod “…bron pob disgybl yn dangos parch a phryder tuag at gyd-ddisgyblion ac yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn gofalu am y rhai sy’n llai ffodus nag ydyn nhw…” (ESTYN 2015). Mae’r adroddiad, sydd ar gael yn ei gyfanwaith i weld ar ein gwefan, yn amlygu’r ymrwymiad a ddengys gan bawb sy’n gweithio yn yr ysgol.
Mae ein datganiad cenhadaeth yn nodweddu ein cwest am ddatblygiad a gwelliant ac, o ganlyniad, rydyn ni’n edrych am ffyrdd o wella gwahanol agweddau o’r ysgol yn barhaol yn hytrach nag eistedd a disgwyl i bethau ddigwydd.
Rydw i’n falch iawn o’n hysgol a’r holl mae’n cyflawni i blant yr ardal. Hoffwn ddiolch o waelod calon i’r rhieni, staff, llywodraethwyr a phlant am eu holl waith anhygoel a chefnogaeth ddiflino yn ein hymgyrch i roi’r dechrau gorau posibl i blant sy’n dechrau ym myd addysg.
Mr. G. D. Evans
Pennaeth