Darpariaeth Graidd

 

Yn Ysgol Gynradd Dolau rydym yn ymwybodol fod plant ar adegau angen ychydig bach o gefnogaeth llythrennedd, rhifedd neu gefnogaeth emosiynol i'w helpu.

Darpariaeth graidd yw’r gefnogaeth a gynigiwn i bob plentyn er mwyn caniatáu iddynt ‘ddal i fyny’ neu fagu hyder mewn maes sydd ei angen arnynt. Bydd llawer o blant yn cyrchu darpariaeth graidd ar ryw adeg yn eu gyrfa ysgol.

 

Pwy sy'n gwneud penderfyniadau ar fynediad i'n Darpariaeth Graidd?

Mae disgyblion yn cael eu hasesu a'u monitro'n rheolaidd trwy gydol eu hamser yn Dolau. Mae hyn yn cynnwys asesiadau llythrennedd a rhifedd anffurfiol trwy gydol y flwyddyn, yn ogystal â phrofion ffurfiol ym mis Mai. Bydd athrawon dosbarth yn codi pryderon ynghylch disgybl gyda'r SENCo cyn gynted ag y byddant yn ymddangos a bydd rhieni'n cael gwybod. Bydd strategaethau i gefnogi'r disgybl yn cael eu trafod a'u hadolygu. Mae'n bwysig iawn bod rhieni'n chwarae rhan weithredol wrth gefnogi disgyblion. Yn dilyn y profion ffurfiol ym mis Mai, bydd yr SENCo a'r Athro Dosbarth yn trafod cynnydd pob plentyn ac yn penderfynu a oes angen ymyrraeth bellach. Defnyddir Data Profi, ond rydym hefyd yn trafod y plentyn yn gyfannol er mwyn llunio barn. Fel rhiant os ydych chi'n teimlo y gallai'ch plentyn elwa o gael mynediad i'n darpariaeth graidd yna siaradwch â'u hathro dosbarth gan esbonio eich pryderon.

 

Darpariaeth Graidd

Yn Dolau rydym yn ffodus ein bod yn gallu cynnig llawer o wahanol ymyriadau i helpu ein plant. I gael mwy o wybodaeth am ddarpariaeth graidd benodol, gwelwch athro dosbarth eich plentyn neu fel arall cliciwch ar y dolenni ar ochr y dudalen.

Literacy Provision

Emotional Well-being /

Speech and Language

Numeracy Provision

 

CatchUp /  Dyfal Donc

Literacy Launchpad

WordShark

Daily Reading

Precision Teaching

Hands On Literacy

Popat

ELSA

Thrive

Lego Therapy

WellComm

Speechlink

Language Link

NumberShark

CatchUp Numeracy

Third Space Learning

 

 

Dyslecsia

Mae gennym lawer o strategaethau ar waith ym mhob dosbarth i gefnogi unrhyw ddisgyblion ag anawsterau llythrennedd gan gynnwys anawsterau dysgu penodol fel Dyslecsia. Efallai y bydd llawer o ddisgyblion yn dangos nodweddion Dyslecsia ond ni fyddant yn cwrdd â'r meini prawf ar gyfer cefnogaeth ychwanego gan asiantaeth allanol.

 

Proffil Un Tudalen

Rydym yn falch o ddweud bod gan bob plentyn yn Ysgol Gynradd Dolau broffil un tudalen sydd wedi'i gwblhau gan yr athro dosbarth, staff cymorth, plentyn a rhieni. Mae proffil un tudalen yn cynnwys yr holl wybodaeth bwysig am blentyn ar un ddalen o bapur o dan dri phennawd syml: beth mae pobl yn ei werthfawrogi amdanaf, beth sy'n bwysig i mi a sut orau i'm cefnogi. Ar gefn ein proffiliau un dudalen mae lle i osod targedau unigol sy’n gallu cynnwys  targedau darpariaeth graidd. Mae’r rhain yn cael eu hadolygu bob tymor a'u trafod yn ystod noson rieni.

 

Mae cyfranogiad rhieni yn allweddol i ddatblygiad pob plentyn!

 

"Mae gan yr ysgol system glir a diffiniedig ar gyfer nodi disgyblion y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt. Mae aelodau staff yn adnabod anghenion y disgyblion hyn yn gynnar ac yn rhoi rhaglen gynhwysfawr o strategaethau ymyrraeth hynod effeithiol ar waith y maent yn ei monitro’n drylwyr.

Mae’r ysgol hefyd yn datblygu gallu’r staff i ddarparu cymorth cynlluniedig a thargedig sy’n ymateb yn effeithiol i anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol disgyblion. Mae hon yn nodwedd ragorol yn yr ysgol." Adroddiad Estyn Gorffennaf 2015

 

 

image
image
image
image
image
image
image