Welcome / Croeso
Our road to success is continually under construction / Mae ein ffordd i lwyddiant yn cael ei hadeiladu’n barhaus
We hope that you enjoy visiting our website and find it both useful and interesting.
Rydyn ni’n mawr obeithio y byddwch chi’n mwynhau ymweld â’n gwefan ac yn ei weld yn adnodd defnyddiol a diddorol.
At Dolau we have a fantastic staff team who are totally committed to ensuring that every child within our care receives an excellent education, enabling them to achieve their potential. We are very proud of our bi-lingual uniqueness, which creates belonging in such a happy, caring and friendly school. We strive to develop excellent links with parents and the local community.
Rydyn ni’n ffodus iawn yn Dolau bod gennyn ni dîm o staff arbennig sy’n weithgar ac wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau fod pob plentyn o fewn ein gofal yn derbyn yr addysg flaenaf sy’n eu galluogi i gyrraedd eu potensial. Rydyn ni’n ymfalchïo yn ein dwyieithrwydd, sy’n dod ag elfen unigryw iawn i’n hysgol ac yn helpu i adeiladu teimlad o berthyn o fewn awyrgylch hapus, gofalgar a chyfeillgar. Yn ein hymdrech i ymestyn yr ethos yma ymhellach, rydyn ni wedi sefydlu cysylltiadau cadarn gyda rhieni a chymuned yr ysgol.
Our latest inspection report in October 2023 identified a number of excellent and outstanding features."Ysgol Gynradd Dolau Primary School is a friendly, vibrant and inclusive learning community where everyone has high expectations and aspirations of themselves and others. Pupils are proud to be a part of the school and strive enthusiastically to achieve to the very best of their ability." (Estyn 2023).
Amlygwyd nifer o elfennau o ragoriaeth yn ein hadroddiad arolwg diweddaraf. “Mae Ysgol Gynradd Dolau yn gymuned ddysgu gyfeillgar, fywiog a chynhwysol lle mae gan bawb ddisgwyliadau a dyheadau uchel ohonyn nhw eu hunain ac eraill. Mae disgyblion yn falch o fod yn rhan o’r ysgol ac yn ymdrechu’n frwdfrydig i gyflawni hyd eithaf eu gallu." (Estyn 2023).
The report, which you can access from this website, highlighted the commitment shown by everyone who works at the school.
Mae’r adroddiad, sydd ar gael yn ei gyfanwaith i weld ar ein gwefan, yn amlygu’r ymrwymiad a ddengys gan bawb sy’n gweithio yn yr ysgol.
Our mission statement typifies our quest for continual improvement and consequently we are always looking to improve all aspects of the school. We are very proud of our school and I would like to thank all the parents, staff, governors and children for all their incredible hard work and support in striving to give our children the best possible start in their school experience.
Mae ein datganiad cenhadaeth yn nodweddu ein cwest am ddatblygiad a gwelliant ac, o ganlyniad, rydyn ni’n edrych am ffyrdd o wella gwahanol agweddau o’r ysgol yn barhaol. Rydyn ni'n falch iawn o’n hysgol a’r holl mae’n cyflawni i blant yr ardal. Hoffwn ddiolch o waelod calon i’r rhieni, staff, llywodraethwyr a phlant am eu holl waith anhygoel a chefnogaeth ddiflino yn ein hymgyrch i roi’r dechrau gorau posibl i blant sy’n dechrau ym myd addysg.
Miss N.Pugh
Headteacher / Pennaeth